DWLP 01

Senedd Cymru | Welsh Parliament

Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol | Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee

Datblygu’r ddarpariaeth Gymraeg ôl-16 |Development of post-16 Welsh language provision

Ymateb gan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol | Evidence from Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 

Diolch am y cais i gyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor ynghylch ei ymchwiliad i ddatblygiad darpariaeth cyfrwng Cymraeg ôl-16. 

Mae’r nodyn briffio hwn yn crynhoi ein prif negeseuon a bydd Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (y Coleg), Dr Ioan Matthews, yn falch i ymhelaethu ac ateb cwestiynau yn ystod y sesiwn dystiolaeth lafar ar 17 Ebrill 2024. 

Tystiolaeth y Coleg (598 gair)

1. Strategaeth ôl-16 Cymraeg a dwyieithog 

Yn dilyn adolygiad yn 2017, rhoddwyd gyfrifoldeb i’r Coleg dros y Gymraeg a dwyieithrwydd yn y sector ôl-16. Yn 2019 cyhoeddwyd Cynllun Gweithredu Addysg Bellach a Phrentisiaethau Cymraeg gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, sy’n targedu pawb yn y sector beth bynnag eu sgiliau Cymraeg (ceir crynodeb yma).

Dengys y tabl islaw y cynnydd ers 2017-18:

Tabl 1 Gweithgareddau dysgu gydag o leiaf elfen o Gymraeg

Blwyddyn

Addysg bellach

Dysgu yn y gweithle

2017/18

9.6%

13.4%

2018/19

11.9%

15.4%

2019/20

11.8%

14.6%

2020/21

14.7%

20.8%

2021/22

18.2%

25.3%

Ffynhonnell:https://www.llyw.cymru/cymraeg-2050-adroddiadau-blynyddol

Tra’n cydnabodyr heriau sylweddol syn perthyn i ddata ôl-16 Cymraeg, rydym yn falch o’r cynnydd hyd yma ac o’r cydweithio parod rhwng y Coleg, y colegau, darparwyr prentisiaethau a chyrff megis ColegauCymru, NTfW a Cymwysterau Cymru.

2. Cyllid ôl-16 Cymraeg a dwyieithog ac effaith y cyllid hwnnw

Yn sgil y Cytundeb Cydweithio cynyddwyd cyllideb ôl-16 y Coleg:

§    2022-23: £1.5m

§    2023-24: £2.825

O ganlyniad buddsoddwyd yn y prosiectau canlynol:

§    Penodwyd 62 ymarferydd addysg bellach a cyllidwyd Coleg Gŵyr Abertawe a Chaerdydd a’r Fro i ddatblygu Prosiectau Cymorth Addysgwyr.

§    Penodwyd 21 asesydd prentisiaethau a cefnogwyd is-adeiledd prentisiaethau yn ACT ac yng Ngrŵp NPTC. 

§    Darparwyd grantiau hyrwyddo i’r darparwyra noddwyd gwobrau i brentisiaid a dysgwyr.

Roedd ymrwymiad pellach yn y Cytundeb Cydweithio i ddarparu £840,000 ychwanegol yn 2024-25 ond cadarnhawydyn mis Ionawr na fyddai’r Coleg yn derbyn yr arian ychwanegol.  Cyhoeddodd y Llywodraeth ddogfen yn mis Chwefror yn nodi ymrwymiad i ail-broffilio’r cynnydd yn 2025-26. 

Mae cyllideb fflat yn 2024-25 yn caniatáu i’r Coleg gynnal y prosiectau uwchlaw ond ni fydd modd ymestyn a chefnogi gweithgareddau newydd e.e:

§    Ehangu yn y meysydd Iechyd a Gofal a Gofal Plant ble mae prinder gweithwyr dwyieithog.

§    Datblygu darpariaeth Adeiladwaith ym mhob coleg. 

§    Penodi aseswyr prentisiaethau tu hwnt i’rmeysydd sydd eisoes yn derbyn cefnogaeth.

§    Cynnal cynhadledd i staff y sectorau. 

3. Argymhellion y Coleg

Wrth ymateb i bedwerydd cwestiwn y Pwyllgor:

“Deall sut y bydd penderfyniadau ynghylch cyllid yn y dyfodol ar gyfer datblygu’r ddarpariaeth Gymraeg ôl-16 yn effeithio ar lwybr a thargedau Cymraeg 2050”

rhaid ystyried y darlun ehangach a’r newidiadau, a’r cyfleoedd, fydd yn dod yn sgil sefydlu’rComisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CADY).

Mae’r Ddeddf Addysg Drydyddol yn gosod dyletswyddau strategol ar CADY parthed y Gymraeg. Dynodwyd y Coleg i gynghori’r Comisiwn ar y dyletswyddau hyn. Mae datganiad o flaenoriaethau strategol y Llywodraeth wedii gyhoeddi hefyd ac yn rhoi pwyslais amlwg ar y Gymraeg. Lansiwyd y Cynllun Gweithredu gwreiddiol bum mlynedd yn ôl felly mae’n amserolei adolygu er mwyn codi disgwyliadau dros y cyfnod nesaf. 

Ceir amlinelliad islaw o’n hargymhellion cychwynnol. Bwriedir eu datblygu dros y misoedd nesaf wrth i’r Coleg ymgymryd â’i rôl statudol i gynghori CADY:

§    CADY - Rhaid i CADY weithredu ei ddyletswyddau statudol yn ymwneud â’r Gymraeg yn llawn a defnyddio’i rym fel cyllidwr a rheoleiddiwr i sicrhau, mewn cydweithrediad â’r Coleg, bod darparwyr ôl-16 yn datblygu darpariaeth Gymraeg a dwyieithog sy’n addas ac ar gael i bawb.

§    Data Dylai CADY gynnal adolygiad o ddata ôl-16 Cymraeg a dwyieithog. Dylid gosod targedau heriol ar y darparwyr a mesur eu cyrhaeddiad mewn modd ystyrlon. Dylai hyn gydblethu gyda’r Bil Addysg Gymraeg a’r Taflwybr.

§    Cyllid Dylid cynnal adolygiad o’r modd y cyllidir addysg ôl-16 Cymraeg a dwyieithog er mwyn sicrhau bod yr holl ddarparwyr yn derbyn cefnogaeth i ddatblygu a chynnal darpariaeth Gymraeg a dwyieithog ar lefel addas sy’n gyson gydag uchelgais y Llywodraeth ar gyfer y Gymraeg a Strategaeth 2050.

§    Cymwysterau Dylid gweithredu argymhellion adroddiad Sharron Lusher o ran cynyddu’r nifer o gymwysterau galwedigaethol Cymraeg sydd ar gael.